PET(4)-06-11 p7a

P-04-325 Arian a fyddai’n galluogi disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig i gael mynediad i addysg ôl-16 prif-ffrwd

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i gynyddu’r arian ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu i gael mynediad i addysg ôl-16 prif-ffrwd.


Linc i’r ddeiseb:
http://senedd.assemblywales.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1016&Opt=0

 

Cyflwynwyd gan:Mencap Cymru

 

Nifer y llofnodion: 45 

 

Gwybodaeth ategol:
Diben y ddeiseb hon yw ymateb i ddatganiad y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes a wnaed ar 23 Tachwedd 2010, pryd yr addawodd gynyddu’r arian a fyddai’n galluogi disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig i gael mynediad i addysg ôl-16 prif-ffwrd.

 

Hoffai’r deisebwyr wybod pa gynnydd a wnaed o ran bodloni’r amcan hwn. Rydym yn croesawu’r ymrwymiad i gynyddu’r cyllid i ariannu’r mynediad i addysg brif-ffrwd yn sylweddol yn fawr iawn. Fodd bynnag, hysbyswyd Mencap Cymru ynghylch o leiaf dwy enghraifft, o wahanol rannau o Gymru, lle y dywedwyd wrth bobl ifanc sydd ag anabledd dysgu na fyddant yn gallu cael mynediad i addysg ôl-16 prif-ffrwd oherwydd bod diffyg cyllid. Yn yr enghreifftiau hyn, byddai’r bobl ifanc hyn yn dechrau ar yr addysg hon yn y flwyddyn academaidd nesaf (Medi 2011) a gwnaed y penderfyniad gan yr Awdurdod Addysg Lleol.

 

Mae Mencap Cymru hefyd yn cefnogi’r egwyddor sy’n sail i ddisodli datganiadau AAA gyda chynlluniau datblygu unigol ar gyfer pobl hyd at 25 oed. Mae hyn yn gam ymlaen tuag at ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn mewn polisi addysg. Fodd bynnag, mae’n werth crybwyll bod angen cael proses fonitro dynn ar gyfer y system newydd hon pan gaiff ei gweithredu. Bydd hyn yn sicrhau na fydd y newid mewn polisi’n cael ei weld fel dull i wahardd nifer fawr o bobl sydd ar hyn o bryd yn defnyddio’r gwasanaeth hanfodol hwn. 

 

Mae Mencap Cymru yn credu y gall y mwyafrif o bobl sydd ag anabledd dysgu gael mynediad i addysg brif-ffrwd os ceir yr ymyriadau a’r cymorth priodol. Mae hon yn egwyddor wahanol iawn i integreiddio, lle rhoddir mynediad i bobl ifanc sydd ag anabledd dysgu i wasanaethau addysg sydd wedi’u haddasu ychydig. Cynhwysiant llawn yw pan fydd yr holl rwystrau i fynediad wedi cael eu dileu yn unol â’r model cymdeithasol o anabledd.

 

Gwnaed llawer o waith ymchwil a gwaith arall ar fuddiannau cynwysoldeb gan y Gynghrair dros Addysg Gynhwysol. Mae’r buddiannau’n estyn y tu hwnt i sicrhau bod disgyblion sydd ag anabledd dysgu’n cael addysg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn; maent hefyd yn cyflwyno’r syniad o amrywiaeth i’r dosbarth, gan ymgyfuno disgyblion anabl a’u cyd-ddisgyblion nad ydynt yn anabl. Bydd gweithredu’r polisi cynhwysiant ymhellach mewn ysgolion yn annog y disgyblion i chwarae rhan yn y gymdeithas ehangach pan fyddant yn oedolion.